Llawdriniaeth y galon yn y Deyrnas Unedig

Diweddarwyd diwethaf: 07/05/2010

Llawdriniaeth y galon yn y Deyrnas Unedig

Mae dros 30,000 o bobl yn cael llawdriniaeth y galon yn y Deyrnas Uendig bob blwyddyn. Mae deall y manteision a'r peryglon sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o lawdriniaeth y galon yn bwysig i bob claf.

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth bwysig am gyfraddau goroesi i gleifion sydd wedi cael gwahanol fathau o lawdriniaeth y galon mewn gwahanol unedau llawfeddygol yn y DU. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth gyffredinol am wahanol lawdriniaethau, am fanteision cael llawdriniaeth y galon, a manylion am beth i'w ddisgwyl ar ôl i chi gael llawdriniaeth.

Cafodd y wefan ei datblygu gan y Comisiwn Gofal Iechyd, corff annibynnol gwarchod gofal iechyd yn Lloegr, y Gymdeithas Llawdriniaeth Gardiothroasig ym Mhrydain ac Iwerddon a chleifion sydd wedi cael profiad o lawdriniaeth y galon i helpu pobl sydd angen llawdriniaeth y galon wneud dewisiadau gwybodus am eu gofal a'u triniaeth. Mae'r Comisiwn Gofal Iechyd yn ymroddedig i yrru gwelliannau yn ansawdd gwasanaethau gofal iechyd y GIG a gwasanaethau annibynnol ac i sicrhau bod cleifion yn ganolog i bopeth a wnawn.

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon

Gall cleifion sydd angen llawdriniaeth ar y galon ei chael hi'n defnyddiol i drafod cyfraddau goroesi mewn perthynas â llawfeddygon neu ysbytai penodol gyda'u meddyg teulu, eu llawfeddyg neu eu cardiolegydd cyn gwneud penderfyniad am eu gofal a'u triniaeth.

Am ragor o wybodaeth am sut i ddehongli'r wybodaeth ar y safle hwn ewch i'r adran gwybodaeth i gleifion

Beth na all ei ddweud wrthych

Eich tebygrwydd eich hun o oroesi llawdriniaeth ar y galon. Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol eich hun, megis eich oedran, eich iechyd yn gyffredinol a'ch ffordd o fyw.


Mae'n bosib y byddwn yn ymestyn cwmpas y wefan hon yn y dyfodol i drafod meysydd eraill o glefyd y galon, ac, o bosibl, clefydau eraill. Byddwn yn croesawu eich adborth ar ba mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth ar y wefan hon i chi.