Heart surgery in the United Kingdom

Diweddarwyd diwethaf: 07/05/2010

Y wefan hon

Y wefan hon

Mae'r Comisiwn Gofal Iechyd, y corff annibynnol sy'n goruchwylio gofal iechyd yn Lloegr, yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth go iawn yn narpariaeth gofal iechyd. Un o'r dulliau y mae'r Comisiwn yn ei ddefnyddio i wneud hyn yw hybu gwelliannau mewn gofal clinigol drwy gyfrwng rhaglen o archwiliadau cenedlaethol.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon wedi cael ei chasglu o unedau llawfeddygaeth ar y galon yn y DU fel rhan o un o'r archwiliadau cenedlaethol allweddol sy'n cael eu noddi gan y Comisiwn Gofal Iechyd. Mae'n dangos gwybodaeth am gyfraddau goroesi ar gyfer llawfeddygon ac ysbytai unigol.

Cyflwyno cyfraddau goroesi

Mae llawfeddygaeth ar y galon yn llawdriniaeth fawr ac mae'n naturiol bod cleifion a'u teuluoedd eisiau gwybod mwy am y peryglon a'r cyfraddau goroesi. Mae gan Brydain hanes o lawfeddygaeth ar y galon llwyddiannus o ansawdd da. Ar y wefan hon, rydym yn cyflwyno canlyniadau llawdriniaeth ar y galon fel cyfraddau goroesi, yn hytrach na chyfraddau marwolaethau. Mae hyn yr un fath â'r dull a ddefnyddir i gyflwyno cyfraddau goroesi cleifion canser.

Mae ffactorau megis afiechyd, oedran a ffordd o fyw'n effeithio ar siawns claf o oroesi llawdriniaeth fawr. Mae'r cyfraddau goroesi ar y wefan hon yn cymryd i ystyriaeth 15 ffactor risg dichonol mewn perthynas â'r cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon. Mae'r Gymdeithas Llawfeddygaeth Thorasig wedi bod yn bryderus ers peth amser y gallai cyflwyno cyfraddau goroesi syml heb ystyried ffactorau risg dichonol greu diwylliant lle mae amharodrwydd i roi llawdriniaeth i gleifion sy'n cael eu hystyried yn risg uchel.

Bydd y cyfraddau goroesi hyn yn cael eu diweddaru yn flynyddol.

Addasu ar gyfer risg

Mae cyfraddau goroesi'n cael eu dangos ar y wefan hon fel a ganlyn:

Llawdriniaethau a gynhaliwyd mewn blwyddyn

Mae'r cyfraddau goroesi disgwyliedig yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio model logistaidd EuroSCORE. Mae'r model hwn yn caniatáu i ni gyfrifo cyfraddau goroesi tebygol llawdriniaethau ar y galon, gan gymryd i ystyriaeth oed ac iechyd y cleifion a'r math o driniaeth. Mae'n fodel poblogaidd gan ei fod yn gymharol syml. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddiweddar o'r DU a rhannau o UDA ac Awstralia yn dangos fod ysbytai, ers 2002, wedi tueddu i wneud yn well na'r model a ragwelwyd. Mae hyn yn adlewyrchu gwelliannau mewn technoleg a thechnegau llawfeddygol ac anaesthesia.

Mae defnyddio EuroSCORE yn cynnig man cychwyn da. Rydym hefyd wedi cyfrifo cyfraddau goroesi disgwyliedig drwy addasu'r sgorio yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol i'r DU yn unig. Mae'r addasu ar gyfer perfformiad y DU'n golygu fod disgwyl i fwy o bobl oroesi ac felly mae'n gymhariaeth fwy llym.

Dylid adolygu a diwygio pob mesur wrth i dechnegau newydd mewn llawdriniaeth neu well cyffuriau anaesthesia ddod ar gael, er enghraifft. Bydd y Gymdeithas Llawfeddygaeth Cardiothorasig a'r Comisiwn Gofal Iechyd yn adolygu'r technegau a ddefnyddir mewn llawfeddygaeth ar y galon yn rheolaidd ac yn addasu'r lefelau risg lle mae hynny'n briodol.

Pa mor dda yw'r data a ddefnyddiwn?

Mae'r wybodaeth sy'n cael ei darparu ar y wefan hon yn cael ei chasglu drwy ddulliau gwahanol mewn gwahanol ysbytai. Mae gan rai ysbytai well adnoddau nag eraill i gasglu data, a gall hyn effeithio ar ansawdd a chyflawnrwydd y data. Mae'r tabl isod yn dangos cyflawnrwydd y data a gasglwyd gan yr ysbytai unigol.

Enw'r UnedCyflawnrwydd y dataAchrediad data SCTS
Aberdeen Royal Infirmary0.0%n/a
Belfast Royal Victoria Hospital80.87%n/a
Birmingham Queen Elizabeth Hospital99.86%n/a
Blackpool Victoria Hospital99.99%n/a
Brighton Royal Sussex County Hospital99.77%n/a
Bristol Royal Infirmary99.96%n/a
Cardiff University Hospital of Wales98.00%n/a
Coventry Walsgrave Hospital98.67%n/a
Edinburgh Royal Infirmary0.0%n/a
Essex Cardio0.0%n/a
Glasgow Royal Infirmary0.0%n/a
Glasgow Western Infirmary99.82%n/a
Hull Castle Hill Hospital94.88%n/a
Leeds General Infirmary97.75%n/a
Leicester Glenfield Hospital97.76%n/a
Liverpool Cardiothoracic Centre99.94%n/a
London Bart's and the London92.96%n/a
London Guy's & St Thomas' Hospitals99.63%n/a
London Hammersmith Hospital71.32%n/a
London Harley Street89.87%n/a
London King's College Hospital95.51%n/a
London London Bridge Hospital89.58%n/a
London Royal Brompton & Harefield Hospitals99.65%n/a
London St Anthony's0.0%n/a
London St George's Hospital89.87%n/a
London St Mary's Hospital92.56%n/a
London The Heart Hospital99.76%n/a
London Wellington Hospital90.79%n/a
Manchester Royal Infirmary99.98%n/a
Manchester Wythenshawe Hospital99.78%n/a
James Cook University Hospital98.45%n/a
Newcastle Freeman Hospital99.85%n/a
Nottingham University Hospital99.98%n/a
Oxford John Radcliffe Hospital98.95%n/a
Papworth Hospital89.92%n/a
Plymouth Derriford Hospital92.32%n/a
Sheffield Northern General Hospital98.35%n/a
Southampton General Hospital90.84%n/a
Stoke-on-Trent N Staffordshire Royal Infirmary96.75%n/a
Swansea Morriston Hospital97.12%n/a
West of Scotland Golden Jubliee0.0%n/a
Wolverhampton New Cross Hospital98.21%n/a

Am ragor o wybodaeth am fenter achredu data'r Gymdeithas Llawfeddygaeth Thorasig, sy'n unigryw i lawdriniaeth y galon, ewch i www.scts.org.

Dadansoddiad o'r data a ddarparwyd gan ysbytai ac unedau llawfeddygol unigol yw'r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon. Er bod y Comisiwn Gofal Iechyd wedi gwneud ei orau i sicrhau ansawdd y data, cyfrifoldeb yr ysbytai a'r unedau llawfeddygol unigol dan sylw yw hyn yn y pen draw.