Llawdriniaethau dargyfeiriol ar y galon (grafftiad i ddargyfeirio rhydwelïau coronaidd)
Awdur: Samer Nashef - Papworth Hospital
Cyhoeddwyd: Tachwedd 2005
Pwrpas y llawdriniaeth
Y prif bwrpas yw lliniaru angina, yn enwedig os nad yw dulliau eraill llai mewnwthiol yn addas. Teimlad o anghysur neu bwysau, fel arfer yng nghanol y frest, yw angina, er y gall weithiau fod yn y breichiau, y cefn, y gwddf neu'r ên. Mae'n deimlad annifyr sy'n digwydd wrth ymarfer ac yn diflannu wrth orffwys. Gan fod angina'n digwydd gydag ymdrech gorfforol, gall waethygu ansawdd bywyd rhywun, gan gyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud a'i fwynhau.
Pwrpas arall y llawdriniaeth yw lleihau'r perygl o drawiad ar y galon yn y dyfodol. Mewn rhai cleifion, mae culhau a rhwystro rhydwelïau yn y galon yn golygu bod trawiad ar y galon yn fwy tebygol. Gall rhai cleifion hyd yn oed ystyried cael llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon er mwyn lleihau'r risg o drawiad ar y galon, hyd yn oed os nad oes ganddynt angina trafferthus ac i rai pobl gall fod yn bosibl agor rhydweli goronaidd gan ddefnyddio techneg lawfeddygol, sef angioplasteg, yn hytrach na dargyfeiriad.
Yr effaith ar gleifion
Mae hon yn llawdriniaeth fawr. Nid yw'n boenus iawn, ond mae poen wedyn. Fel arfer gall y frest, y cefn, y gwddf, yr ysgwyddau a'r coesau frifo, ond mae'n hawdd trin hyn gyda phoenladdwyr arferol.
Mae'r llawdriniaeth hefyd yn gwneud i'r cleifion deimlo'n flinedig ac yn ddi-egni am yr wythnosau cyntaf.
Fel arfer mae'r angina'n diflannu'n llwyr yn syth ar ôl y llawdriniaeth heb ddod yn ôl am flynyddoedd. Mae'r risg o drawiad ar y galon hefyd yn llawer llai i lawer o gleifion unwaith y byddant ar wellhad ar ôl y llawdriniaeth.
Beth i'w ddisgwyl wedyn
Byddwch yn aros dros nos yn yr uned gofal dwys ac am dua phedwar i wyth diwrnod yn gwella ar y ward. Caiff y rhan fwyaf o'r tiwbiau eu tynnu allan yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf. Cewch fwyd a diod y diwrnod ar ôl y driniaeth, ond efallai na fydd eich archwaeth am fwyd yn dda iawn yn y dyddiau cyntaf. Cewch eistedd mewn cadair ar y diwrnod cyntaf, cerdded i'r toiled ar yr ail ddiwrnod a cherdded o gwmpas y ward o'r trydydd neu'r pedwerydd diwrnod. Unwaith y byddwch yn gallu dringo grisiau, mae hi bron yn amser mynd adref.
Beth i'w ddisgwyl ar ôl y llawdriniaeth
Byddwch yn aros yn yr uned gofal dwys dros nos ac ar yr ward am bedair i wyth dydd arall tra eich bod yn gwella. Caiff y rhan fwyaf o'r tiwbiau eu tynnu yn ystod y deuddydd cyntaf. Gallwch fwyta ac yfed ar y diwrnod cyntaf ar ôl y llawdriniaeth, ond gallwch golli eich archwaeth yn ystod y dyddiau cyntaf. Gallwch eistedd mewn cadair ar y diwrnod cyntaf, cerdded i'r ty bach ar yr ail ddydd a cherdded o gwmpas y ward o'r trydydd neu'r pedwerydd dydd ymlaen. Unwaith y gallwch ddringo grisiau, mae bron yn amser i chi fynd adref.
Adferiad
Cewch eich annog i fod yn fywiog ac i fynd am dro ar ôl gadael yr ysbyty. Y rheol gyffredinol yw y gallwch wneud y rhan fwyaf o bethau os ydych yn teimlo'n ddigon da i'w gwneud, ar wahân i weithgareddau allai olygu oedi wrth i asgwrn y frest wella (gwaherddir codi pwysau trwm neu weithgareddau eraill sy'n gosod pwysau ar ran uchaf y breichiau am dri mis ar ôl y driniaeth). Ar ôl chwech wythnos, bydd y rhan fwyaf o gleifion yn teimlo bron yn normal ac yn ddigon bywiog i werthfawrogi nad yw'r angina yno bellach.
Cyfraddau goroesi ar ôl llawdriniaethau dargyfeiriol ar y galon
- Aberdeen Royal Infirmary
- Royal Victoria Hospital Belfast
- Blackpool Victoria Hospital
- Bristol Royal Infirmary
- Coventry Walsgrave Hospital
- Essex Cardio -thoracic
- Glasgow Royal Infirmary
- Golden Julilee
- Hull Castle Hill Hospital
- Leicester Glenfield Hospital
- London Bart's and the London
- London Harley Street
- London Imperial College
- London The Heart Hospital
- London London Bridge Hospital
- London St Anthony's
- London St George's Hospital
- Manchester Royal Infirmary
- Middlesbrough James Cook University Hospital
- Nottingham University Hospital
- Papworth Papworth Hospital
- Sheffield Northern General Hospital
- Stoke on Trent N Staffordshire Royal Infirmary
- Wolverhampton New Cross Hospital
- Birmingham Queen Elizabeth Hospital
- Brighton Royal Sussex County Hospital
- Cardiff University Hospital of Wales
- Edinburgh Royal Infirmary
- Glasgow Western Infirmary
- Leeds General Infirmary
- Liverpool Cardiothoracic Centre
- London Guy's & St Thomas' Hospitals
- London King's College Hospital
- London Royal Brompton & Harefield Hospitals
- London St Mary's Hospital
- London Wellington Hospital
- Manchester Wythenshawe Hospital
- Newcastle Freeman Hospital
- Oxford John Radcliffe Hospital
- Plymouth Derriford Hospital
- Southampton Southampton General Hospital
- Swansea Morriston Hospital