Heart surgery in United Kingdom

Diweddarwyd diwethaf: 07/05/2010

Yngl?n â llawdriniaeth newid y falf aortig

Awdur: Samer Nashef - Papworth Hospital
Cyhoeddwyd: November 2005

Pwrpas y llawdriniaeth

Y prif bwrpas yw lliniaru symptomau falf sy'n gollwng neu wedi culhau. Y symptomau arferol yw angina neu golli gwynt ac mae pyliau o bendro neu o lewygu'n gyffredin, yn enwedig os byddant yn digwydd wrth ymarfer corff. Teimlad o anghysur neu bwysau, fel arfer yng nghanol y frest, yw angina, er y gall weithiau fod yn y breichiau, y cefn, y gwddf neu'r ên. Mae'n deimlad annifyr sy'n digwydd wrth ymarfer ac yn diflannu wrth orffwys. Gan fod angina'n digwydd gydag ymdrech gorfforol, gall waethygu ansawdd bywyd rhywun, gan gyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud a'i fwynhau.

Pwrpas arall y driniaeth yw lleihau'r risg o fethiant y galon yn y dyfodol. Fel arfer, gall y galon weithio er gwaethaf falf sy'n gollwng neu wedi culhau, ond mae'n rhaid iddi weithio'n llawer caletach. Pan fydd symptomau'n dechrau, neu pan fydd y galon yn dechrau ymestyn, mae hynny fel arfer yn golygu nad yw'r galon yn ymdopi a bod methiant y galon ar y gorwel. Gall y llawdriniaeth leihau'r risg honno.

Effaith ar gleifion

Mae hon yn llawdriniaeth fawr. Nid yw'n boenus iawn, ond mae poen wedyn. Fel arfer gall y frest, y cefn, y gwddf, a'r ysgwyddau frifo, ond mae'n hawdd trin hyn gyda phoenladdwyr arferol.

Mae'r llawdriniaeth hefyd yn gwneud i'r cleifion deimlo'n flinedig ac yn ddi-egni am yr wythnosau cyntaf.

Fel arfer mae'r angina'n diflannu'n llwyr yn syth ar ôl y llawdriniaeth heb ddod yn ôl am flynyddoedd. Mae'r anadlu'n well a gall ddod yn ôl i fod yn normal, ac mae'r risg o fethiant y galon a marwolaeth hefyd yn llawer llai unwaith y bydd y claf ar wellhad ar ôl y llawdriniaeth.

Beth sy'n digwydd yn ystod y llawdriniaeth

Mae'r llawdriniaeth yn cael ei gwneud dan anaesthetig cyffredinol. Mae'r anaesthetegydd yn gosod llawer o diwbiau a drips i fonitro'r claf ac i roi meddyginiaethau. Torrir y frest dros asgwrn y frest. Defnyddir peiriant calon-ysgyfaint i gadw'r gwaed yn cylchredeg tra bod y galon yn cael ei hatal ar gyfer y llawdriniaeth. Wedyn bydd y llawfeddyg yn agor yr aorta (y rhydweli fawr sy'n dod allan o'r galon), yn tynnu'r hen falf allan ac yn pwytho'r un newydd yn ei lle. Caiff yr aorta ei gau, y galon ei hailgychwyn, y peiriant ei atal a chaiff y clwyf ei gau.

Beth i'w ddisgwyl ar ôl y llawdriniaeth

Byddwch yn aros dros nos yn yr uned gofal dwys ac am dua phedwar i wyth diwrnod yn gwella ar y ward. Caiff y rhan fwyaf o'r tiwbiau eu tynnu allan yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf. Cewch fwyd a diod y diwrnod ar ôl y driniaeth, ond efallai na fydd eich archwaeth am fwyd yn dda iawn yn y dyddiau cyntaf. Cewch eistedd mewn cadair ar y diwrnod cyntaf, cerdded i'r toiled ar yr ail ddiwrnod a cherdded o gwmpas y ward o'r trydydd neu'r pedwerydd diwrnod. Unwaith y byddwch yn gallu dringo grisiau, mae hi bron yn amser mynd adref. Os mai falf fecanyddol fydd gennych, byddwch yn cymryd cyffur o'r enw warfarin am weddill eich bywyd.

Adsefydlu

Cewch eich annog i fod yn fywiog ac i fynd am dro ar ôl gadael yr ysbyty. Y rheol gyffredinol yw y gallwch wneud y rhan fwyaf o bethau os ydych yn teimlo'n ddigon da i'w gwneud, ar wahân i weithgareddau allai olygu oedi wrth i asgwrn y frest wella (gwaherddir codi pwysau trwm neu weithgareddau eraill sy'n gosod pwysau ar ran uchaf y breichiau am dri mis ar ôl y driniaeth). Ar ôl chwech wythnos, bydd y rhan fwyaf o gleifion yn teimlo bron yn normal ac yn ddigon bywiog i werthfawrogi nad yw'r angina neu'r diffyg anadl yno bellach.

Cyfradd goroesi ar ôl llawdriniaethau gosod falf aortig newydd